Lleoliad:
Tŷ Hywel
Dyddiad: Dydd Mawrth, 24 Mai 2022
Amser: 09.00 - 09.14
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Pwyllgor: |
Elin Jones AS, Llywydd (Cadeirydd) Lesley Griffiths AS Russell George AS Llyr Gruffydd AS |
Staff y Pwyllgor: |
Graeme Francis (Clerc) |
Eraill yn bresennol |
David Rees AS, Y Dirprwy Lywydd Jane Dodds AS Manon Antoniazzi, Prif Weithredwr a Chlerc y Senedd Siwan Davies, Cyfarwyddwr Busnes y Senedd Siân Wilkins, Pennaeth Gwasanaeth y Siambr a Phwyllgorau Julian Luke, Pennaeth Pwyllgorau Polisi a Deddfwriaeth, Pennaeth Pwyllgorau Polisi a Deddfwriaeth Gwion Evans, Pennaeth Swyddfa Breifat y Llywydd Helen Carey, Llywodraeth Cymru |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon.
Croesawodd y Llywydd yr Aelodau i’r cyfarfod. Cafwyd ymddiheuriadau gan:
· Siân Gwenllian - dirprwyodd Llyr Gruffydd ar ei rhan.
2 Cofnodion y cyfarfod blaenorol
Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod blaenorol i’w cyhoeddi.
3 Trefn Busnes
3.1 Busnes yr wythnos hon
Tynnodd y Trefnydd sylw'r Pwyllgor Busnes at y newid canlynol i gyfarfod dydd Mawrth:
Nododd y Pwyllgor Busnes fod grŵp Llafur yn bwriadu newid yr aelod sydd ganddo ar y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai, o Alun Davies i Jane Bryant. Felly, tynnodd y Llywydd sylw'r Pwyllgor Busnes at yr ychwanegiad canlynol at yr agenda ar gyfer cyfarfod dydd Mercher:
3.2 Amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf
Tynnodd y Trefnydd sylw'r Rheolwyr Busnes at y newid a ganlyn:
Dydd Mawrth 14 Mehefin 2022 –
· Datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Diweddariad ar Wcráin (30 munud)
3.3 Amserlen busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf
Cytunodd y Pwyllgor Busnes i gynnwys yr eitemau o fusnes a ganlyn ar yr amserlen:
Dydd Mercher 22 Mehefin 2022 –
Dywedodd y Llywydd wrth y Pwyllgor Busnes am ei bwriad o ran ymestyn yr amser siarad a ddyrennir i Aelodau yn ystod y ddadl 120 munud ar adroddiad y Pwyllgor Diben Arbennig ar Ddiwygio’r Senedd ar 8 Mehefin.
4 Deddfwriaeth
4.1 Y Bil Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) - Amserlen
Cytunodd y Pwyllgor Busnes i gyfeirio'r Bil at y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol, a gohirio penderfyniad ar yr amserlen ar gyfer y Bil er mwyn ymgynghori â'r Pwyllgor a dychwelyd at y mater mewn cyfarfod yn y dyfodol.
5 Amserlen y Pwyllgorau
5.1 Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol
Cytunodd y Pwyllgor Busnes ar y cais am slot cyfarfod ychwanegol ar 9 Mehefin 2022.
6 Pwyllgorau
6.2 Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid
Cytunodd y Pwyllgor Busnes ar y cais i ganiatáu i Aelodau’r Pwyllgor gael eu hesgusodi o’r Cyfarfod Llawn ddydd Mercher 15 Mehefin er mwyn teithio i’r Alban ar gyfer cyfarfod cyntaf Fforwm y Pwyllgor Cyllid Rhyngseneddol.
Cytunodd y Pwyllgor Busnes i drafod ymhellach, mewn cyfarfod yn y dyfodol, ei rôl mewn perthynas ag ystyried ceisiadau i Aelodau fod yn absennol o’r Cyfarfod Llawn oherwydd busnes pwyllgor.
7 Unrhyw Fater Arall
Adolygiad o gymryd rhan o bell ac adolygu Rheol Sefydlog 34
Dywedodd y Llywydd wrth y Pwyllgor Busnes y byddai holiadur yr Aelodau yn ymwneud ag adolygiad y Pwyllgor Busnes o Reol Sefydlog 34 (Gweithdrefnau Brys) a chymryd rhan o bell ym musnes y Senedd yn cael ei ddosbarthu ar ôl y cyfarfod, a bod angen ymatebion erbyn 9 Mehefin, ac y byddai Fforwm y Cadeiryddion yn trafod ei ymateb i'r adolygiad yn ei gyfarfod ar 26 Mai.
6.1 Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad
Cytunodd y Pwyllgor Busnes ar y cais i’r Pwyllgor gyfarfod y tu allan i’w slot arferol ar 13 Mehefin ac i Aelodau’r Pwyllgor gael eu hesgusodi o’r Cyfarfod Llawn ddydd Mercher 15 Mehefin er mwyn teithio i Lundain ar gyfer gwaith rhyngseneddol gyda phwyllgorau cyfatebol yn nau Dŷ Senedd San Steffan.